Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (224)v3 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Adnewyddu'r Polisi Newid yn yr Hinsawdd (45 munud) |
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Iawndal TB - Y Camau Nesaf (30 munud) |
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth - Gohiriwyd |
7 Dadl: Dyfodol Datganoli i Gymru (60 munud) NDM5605
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Elin Jones (Ceredigion) Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog y bydd Cymru yn rhan ganolog o’r ddadl ar ddyfodol y Deyrnas Unedig. 2. Yn galw am gyd-drafodaethau sydd wedi’u llywio gan ganfyddiadau Comisiynau Holtham a Silk 1, gan gynnwys asesiad diweddar o lefel bresennol cyllid cymharol Cymru ac i ba gyfeiriad y mae’n debygol o fynd yn y dyfodol.
3. Yn galw ar y trafodaethau hynny, a ddylai ddechrau ar unwaith a dod i ben erbyn mis Ionawr 2015, i ganolbwyntio’n benodol ar ariannu teg, gyda’r nod o sicrhau bod cyllid gwaelodol yn cael ei weithredu ar frys sy’n rhoi sylw i danariannu mewn modd sy’n gyson ag anghenion Cymru ac sy’n atal cydgyfeirio yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) sicrhau bod yr un pwerau’n cael eu rhoi i Gymru o ran datganoli Treth Gorfforaeth os yw’r pwerau hynny’n cael eu rhoi i Ogledd Iwerddon a’r Alban; b) datganoli Toll Teithwyr Awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol; c) adolygu lefel y pwerau benthyca a roddir i Gymru ym Mil Cymru; ac d) cydweithio â Llywodraeth Cymru i’w galluogi i gyhoeddi ei bondiau ei hun.
5. Yn ceisio cydnabyddiaeth os yw penderfyniad yn cael ei gymryd i gynnal Refferendwm ar bwerau amrywio trethi, y dylai hyn adlewyrchu barn pobl Cymru.
6. Yn ceisio cadarnhad y bydd y model Cadw Pwerau yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru.
7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau etholiadol.
8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud cynnydd o ran Silk 2.
9. Yn cadarnhau y dylid datblygu’r materion hyn ymhellach mewn cynigion deddfwriaethol, a gyhoeddir cyn diwedd sesiwn seneddol bresennol San Steffan.
|
8 Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud) NDM5599 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2013-14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2014.
Dogfen Ategol |
9 Cyfnod Pleidleisio |
10 Dadl Fer (30 munud) NDM5602 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Anodd ei stumogi: clefyd seilag a'r angen i wella'r ddarpariaeth o fwyd heb glwten yng Nghymru.
Bwriad y ddadl hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o glefyd seilag a'i ddiagnosis yng Nghymru yn ogystal â'r diffyg bwyd heb glwten mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 22 Hydref 2014